Bronski Beat
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Label recordio | London Records |
Dod i'r brig | 1983 |
Dod i ben | 1995, 2018 |
Dechrau/Sefydlu | 1983 |
Genre | synthpop, Hi-NRG, y don newydd, dance-rock |
Enw brodorol | Bronski Beat |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Triawd synthpop a oedd yn boblogaidd yng nghanol y 1980au, (yn enwedig gyda'u cân "Smalltown Boy" yn 1984) oedd Bronski Beat. Roedd holl aelodau'r grŵp yn hoyw ac yn aml roedd eu caneuon yn adlewyrchu hyn, ac yn cynnwys sylwebaeth wleidyddol ar faterion LHDT. Yn eu hanterth, aelodau'r grŵp oedd y prif leisydd Jimmy Somerville, gyda Steve Bronski a Larry Steinbachek yn canu'r allweddau a'r offerynnau traw. Yn hwyrach aeth Somerville ymlaen i fod yn brif leisydd The Communards ac i weithio ar ei ben ei hun.
Aelodau
[golygu | golygu cod]- Steve Bronski – allweddau, offerynnau traw (1983–95)
- Larry Steinbachek – allweddau, offerynnau trawn (1983–95)
- Jimmy Somerville – lleisiol (1983–85, 1987)
- John Foster – lleisiol (1986–1987, 1994–95)
- Jonathan Hellyer – lleisiol (1989–94)
Disgograffi
[golygu | golygu cod]- Albymau stiwdio
- 1984: The Age of Consent
- 1986: Truthdare Doubledare
- 1995: Rainbow Nation